Cartref Tinna November 3, 2021

Chwyldro CylcholYsgogi Trawsnewid i Economi Gylchol yng Nghymru

Wedi'i gynllunio a'i gyflwyno mewn partneriaeth â Riversimple, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerwysg, Chwyldro Cylchol yw'r ganolfan gyntaf dan arweiniad busnesau yn y DU sy'n canolbwyntio ar feddwl mewn modd cylchol. Mae'r gwaith gwerth £2.3m yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru sy'n cyfrannu dros £1.5m. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar helpu i drawsnewid a throsglwyddo busnesau'n ymarferol i fodel busnes cylchol newydd. Bydd y Chwyldro Cylchol yn cefnogi Cymru i ddatblygu cynaliadwyedd yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd ac yn helpu i adeiladu'r economi Werdd. Drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, bydd y prosiect hwn yn helpu i greu swyddi, cefnogi busnesau a chodi sgiliau yng Nghymru.

RHAGLEN ARLOESI DAN ARWEINIAD BUSNESAU
Cefnogi Cymru i ddatblygu'n gynaliadwy

Wedi'i gynllunio a'i gyflwyno mewn partneriaeth â Riversimple, Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerwysg, Chwyldro Cylchol yw'r ganolfan gyntaf dan arweiniad busnesau yn y DU sy'n canolbwyntio ar feddwl mewn modd cylchol. Mae'r gwaith gwerth £2.3m yn cael ei ariannu'n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru sy'n cyfrannu dros £1.5m. Mae'r prosiect yn canolbwyntio ar helpu i drawsnewid a throsglwyddo busnesau'n ymarferol i fodel busnes cylchol newydd. Bydd y Chwyldro Cylchol yn cefnogi Cymru i ddatblygu cynaliadwyedd yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd ac yn helpu i adeiladu'r economi Werdd. Drwy Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, bydd y prosiect hwn yn helpu i greu swyddi, cefnogi busnesau a chodi sgiliau yng Nghymru.

Cliciwch ar y map i'w ehangu

Beth yw'r
Economi Gylchol?

Agwedd at ddatblygu cynaliadwy, mae'r Economi Gylchol yn gysyniad sy'n disodli'r dull traddodiadol o gymryd, gwneud, gwaredu gyda system sy'n cael ei hadfywio'n gynhenid drwy ddylunio. Gan argymell dulliau ailgynllunio radical o ran sut rydym yn cynhyrchu ac yn darparu cynhyrchion a gwasanaethau, mae'r Economi Gylchol yn herio'r syniad y gall deunyddiau, cynhyrchion ac adnoddau gael 'diwedd oes'. Mae'n cynnig, drwy fabwysiadu modelau busnes newydd, ynni adnewyddadwy a strategaethau megis ailddefnyddio, trwsio, adnewyddu neu ailgylchu, y gellir cyfrannu adnoddau yn ôl i'r system gan weithredu porthiant ar gyfer cynhyrchion a deunyddiau yn y dyfodol. Mae'n cynnig, drwy fabwysiadu modelau busnes newydd, ynni adnewyddadwy a strategaethau megis ailddefnyddio, trwsio, adnewyddu neu ailgylchu, y gellir cyfrannu adnoddau yn ôl i'r system gan weithredu porthiant ar gyfer cynhyrchion a deunyddiau yn y dyfodol. Bydd hyn yn helpu nid yn unig i ddylunio gwastraff sy'n mynd allan, ond hefyd yn cynyddu gwerth economaidd ac amgylcheddol yr adnoddau hyn, gan gyfrannu yn y pen draw at wella prosesau datblygu cynaliadwy a lleihau newid yn yr hinsawdd.

Sut y bydd y Chwyldro Cylchol yn Gweithio

Bydd Chwyldro Cylchol yn cynnal dwy raglen o weithgarwch drwy 10 pecyn gwaith
Pecynnau Gwaith 1-4
Rhaglen allgymorth sy’n gweithio gyda busnesau bach a chanolig yng Nghymru i’w cefnogi wrth ymgysylltu â’r Economi Gylchol
Pecynnau Gwaith 6-10
Ymchwil ac arloesi gwirioneddol drwy 6 phrosiect peilot arloesol (PG 6-10) i ddatblygu ymhellach y dulliau cydweithredu sydd eu hangen rhwng partneriaid masnachol i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleoedd a gynigir gan berthynas Economi Gylchol.

Chwyldro Cylchol Cymru – Ysgogi Trawsnewid i Economi Gylchol yng Nghymru

NEWYDDION DIWEDDARAF