Hoffech chi ddechrau’r newid tuag at fod yn fusnes mwy cynaliadwy, cylchol ond yn ansicr ble i ddechrau? Mae Chwyldro Cylchol wedi dylunio ymarfer y gallwch weithio drwyddo yn eich amser eich hun i helpu i wneud hynny!
-
Rhan 1. Deall ble mae eich busnes ar hyn o bryd a pha mor dda y mae eich busnes yn rheoli arloesedd cylchol.
-
Rhan 2. Archwilio llwybr arloesi cylchol. Darllenwch am y gwahanol lwybrau arloesi cylchol i benderfynu pa lwybrau sydd fwyaf hanfodol i chi.