Contract clyfar Roland July 31, 2023
Contract clyfar
Contrctual agreement

Contract clyfar

Yn dilyn amcanion y prosiect ymchwil (defnyddio contractau clyfar i hwyluso’r gwaith o drawsnewid cysylltiadau cyflenwyr o ffordd unionlin i ffordd fwy cylchol o gynnal busnes sy’n cefnogi ‘gwasanaetheiddio’ fel model busnes), mae WP 9 wedi cynhyrchu’r 2 ddogfen ganlynol

  1. Dogfen weithio hyblyg i’w defnyddio fel model/map ffordd i roi gwerthoedd ac egwyddorion cylchol ar waith drwy’r model ‘gwasanaetheiddio’ mewn cysylltiadau Busnes i Fusnes (B2B) a chysylltiadau Busnes i Ddefnyddiwr (B2C) â’r nod o gynnal perthnasoedd hirdymor iach.
    Mae’r ddogfen hon yn gwneud y canlynol:

    • Mae’n nodir math mwyaf priodol o gontractau clyfar ar gyfer cysylltiadau B2B a B2C. Mae wedi gweithio o fewn cyfyngiadau cyfraith Cymru a Lloegr ond gan gyfeirio at ffynonellau rhyngwladol pan yn berthnasol.
    • Mae’n cynnig arweiniad i wasanaethau proffesiynol wrth ddrafftio’r templed contract i’w ddefnyddio ar lwyfan contractau clyfar drwy fanylu ar y materion cyfreithiol cymhleth niferus perthnasol a gwneud cynigion:
      • Mae'n ymwneud â materion sy'n gyffredin i gontractau B2B a B2C megis: sefydlu contractau; perfformiad a therfynu; dehongli rhwymedigaethau a hawliau cytundebol; effaith digwyddiadau nas rhagwelid a newid mewn amgylchiadau ar y contract; addasiadau (ail-gyd-drafod); torri rhwymedigaethau cytundebol a chanlyniadau dilynol (rhwymedïau); atebolrwydd am wallau/camgymeriadau yn y broses ddigideiddio; awdurdodaeth a chyfraith sy'n berthnasol i'r contract.
      • Mae hefyd yn dwyn sylw at faterion neilltuol sy’n ymwneud yn benodol â chontractau busnes i ddefnyddiwr (B2C) megis y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol (GDPR) i ddiogelu preifatrwydd defnyddwyr a hawliau data a materion sy’n ymwneud yn benodol â chontractau B2B megis Atebolrwydd Cynhyrchwyr Estynedig (ar gyfer gwaredu gwastraff a mwy).
  2. Dogfen yn hyrwyddo theori contractau perthynol fel fframwaith cysyniadol posibl i wreiddio’r model ‘gwasanaetheiddio’[ i ategu cysylltiadau cylchol ymhlith cyflenwyr a rhwng cyflenwyr a chwsmeriaid.
    Mae’r ddogfen hon yn gwneud y canlynol:
    • Mae’n nodi’r camau allweddol sydd eu hangen ar gyflenwyr drwy gynnig perthynas fwy hyblyg (mae enghreifftiau allweddol yn cynnwys defnyddio Dulliau Amgen o Ddatrys Anghydfodau (ADR), defnyddio technegau contractio hyblyg i sicrhau cydweithio a chydweithredu agosach, rhannu’r risg rhwng y partïon ac ati).

ARGYMHELLION AT Y DYFODOL

Mae’r ymchwil wedi dwyn ynghyd oblygiadau cyfreithiol ymarferol cyfuno cyfraith gwlad yn ymwneud â chontractau (a’r dirwedd ddeddfwriaethol fwy arbenigol ar gyfer cyd-destunau B2B a B2C) wrth ei roi ar waith ar amgylchedd contractau cylchol clyfar.

Mae hwn wedi bod yn waith arloesol ond nid yw ond wedi megis dechrau. Felly, mae angen i ddatblygiadau yn ymwneud â chreu a dehongli contractau, wrth eu cymhwyso i’r math hwn o fatrics (clyfar, cylchol), gael eu dadansoddi’n bendant a’u harchwilio fesul iteriad. Felly, mae prosiectau pellach o’r math hwn (rhai rhyngddisgyblaethol a rhai a arweinir gan fusnes) yn hollbwysig i ddatblygu’r gyfraith i’r cyfeiriad sy’n ofynnol o ran gofynion cynaliadwyedd ac sy’n addas i fusnesau.

Bydd yr awduron yn parhau i gyhoeddi papurau (mae dau wrthi’n cael eu llunio ar hyn o bryd) ac yn trafod rhinweddau’r prosiect ac yn parhau i ledaenu’r gwersi a ddysgir yn eu sefydliadau penodol a thu hwnt. Bydd yr awduron hefyd yn parhau i geisio sicrhau rhagor o gyllid i ddal ati i ymchwilio i feysydd y gellir, yn sgil y ddealltwriaeth a ddatblygwyd eisoes, eu dyfnhau er mwyn bod yn fwy perthnasol i’r amgylchedd busnes, trwy symud y fframwaith cytundebol i gefnogi a hybu gwerthoedd cylchol yn well.

Mae’r awduron yn rhagweld, fel enghreifftiau (nid ydynt hollgynhwysfawr), y meysydd canlynol lle byddai datblygu/cydweithio pellach yn helpu â’r newid hwn:

  • Atebolrwydd Estynedig Cynhyrchwyr yn sgil yr ansicrwydd sylweddol sy’n dal i fodoli oherwydd yr angen am astudiaethau pellach o rai diffiniadau ac ynghylch goblygiadau ymarferol gweithredu hynny mewn amgylcheddau cylchol yn ogystal â rhai unionlin.
  • Mae’r dirwedd Datrys Anghydfodau Amgen (ADR) yn neilltuol o addas ar gyfer modelau ‘gwasanaetheiddio’ oherwydd mae hynny’n fwy cymodol a chydweithredol i bob pwrpas. Fodd bynnag, mae angen mwy o ymchwil i sicrhau ei fod yn hwyluso amgylcheddau contractau clyfar ac yn astudio ei oblygiadau mewn amgylcheddau anghyfnewidiol. Yn ogystal, nid yw'r atebion ADR digidol yn hollol aeddfed ac mae angen eu harchwilio’n fanylach.
  • Mae’r fframwaith deddfwriaethol a chytundebol presennol sy’n berthnasol i fusnesau o ran eu cysylltiadau (B2B a B2C) yn ddigon hyblyg i ategu modelau ‘gwasanaetheiddio’. Fodd bynnag, mae angen rhagor o sylw mewn perthynas â’u cymhwyso i'r amgylchedd prydlesu, fel y rhagwelir ar gyfer modelau cylchol. Mae eiddo yn un maes neilltuol.
Write a comment
Your email address will not be published. Required fields are marked *