Contractau clyfar o fewn y cyd-destun cylchol: yr agweddau cyfreithiol
Mae’r tîm cyfreithiol contractau clyfar yn gweithio ar lunio adroddiad sy'n cynnwys archwilio'r llu o faterion cyfreithiol sy'n cael eu trafod ac y bydd yn dod ar eu traws yn ystod y prosiect.
Ar wahân i faterion rhagarweiniol, bydd y ddogfen yn archwilio materion ehangach o ran diffiniad fel beth yw contract clyfar - yng nghyd-destun blockchain (wedi'i ganoli neu ei ddatganoli). Gofynnir cwestiynau cyfreithiol perthnasol ynghylch ffurfio contractau clyfar, dehongli contractau clyfar a pha rwymedïau a fydd yn berthnasol os bydd achos o dorri un o’r rhain, a chynigir atebion. Bydd opsiynau datrys anghydfodau amgen (ADR) yn cael eu trafod yng ngoleuni'r cyfnod contract clyfar. Bydd y drafodaeth hon yn cynnwys ymchwilio i ba mor berthnasol yw dulliau ADR yn yr ystyr draddodiadol yn ogystal ag archwiliad manwl o'r penderfyniadau anghydfod digidol cyfoes a pherthnasol a drafodwyd yn ddiweddar, gan gynnwys dichonoldeb AI fel dull datrys anghydfodau wedi'i wreiddio a'i sbarduno'n awtomatig. Wrth gwrs, bydd unrhyw faterion awdurdodaethol a allai fod yn berthnasol i'r prosiect yn cael eu cyfleu.
Bydd ein dogfen hefyd yn ymdrin â materion cyfreithiol pwrpasol, a gaiff eu deall yng nghyd-destun deddfwriaeth berthnasol, cwestiynau cyfreithiol penodol sy'n codi gyda'r deinameg contract-i- ddefnyddwyr clyfar yn ogystal â'r berthynas contract clyfar busnes-i-fusnes (cyflenwr). Bydd yn rhaid cymhwyso deddfwriaeth yng ngoleuni awgrymiadau dogfennau polisi deinamig sy'n deillio o strwythurau'r llywodraeth a strwythurau sefydliadol awdurdodol eraill.
Bydd y cwestiynau cyfreithiol perthnasol a hynod amserol hyn yn cael eu harchwilio o fewn y fframwaith o'u perthnasedd i'r prosiect Riversimple. A fydd yn ei dro yn gorfod cael ei ystyried yng ngoleuni gofynion anghenion trafodol Riversimple. Yn anad dim y bydd sensitifrwydd i ystyriaethau ffactorau risg.
Bydd yr astudiaethau contractio clyfar yn cael eu deall a'u harchwilio yng nghyd-destun yr economi gylchol. Mae eu dehongliad yn dod o dan ddylanwad ystyriaethau polisi'r llywodraeth, yn enwedig o fewn fframwaith dull y DU o drosi mesurau PDG 2020.