Cymryd Rhan Tinna November 3, 2021

Cymryd Rhan

Y gefnogaeth rydym yn ei chynnig i fusnesau yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd

Allgymorth Busnes

Un o nodau pwysig y prosiect Chwyldro Cylchol yw ymgysylltu a chefnogi busnesau o fewn rhanbarth Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn eu taith tuag at fabwysiadu egwyddorion economi gylchol.
Click on the map to enlarge

Pam yr ydym yn canolbwyntio ar fusnesau yn rhanbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd?

Caiff Chwyldro Cylchol ei ariannu’n rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, sy’n anelu’n benodol at gynyddu cyfleoedd ymchwil ac arloesi a chystadleurwydd i fusnesau yng Ngorllewin Cymru a rhanbarth y Cymoedd. Bydd y dull hwn sydd wedi’i dargedu yn galluogi’r Chwyldro Cylchol i ddatblygu a darparu cymorth cynhwysfawr i nifer sylweddol o fusnesau yng Nghymru sy’n wynebu materion yn ymwneud ag arferion a gweithgareddau heb fod yn gynaliadwy.
Sut y gallwch ymgysylltu â ni yn y Chwyldro Cylchol

Sut gall eich busnes gymryd rhan?

Dan arweiniad Prifysgol Caerwysg a Phrifysgol Abertawe, bydd Chwyldro Cylchol yn cyflwyno rhaglen allgymorth sy’n anelu nid yn unig at ysgogi gweithgarwch a rhannu gwybodaeth o amgylch yr Economi Gylchol, ond hefyd at nodi a chefnogi cwmnïau a fyddai’n elwa o gymhwyso ffyrdd cylchol o feddwl yn eu cynnyrch/gwasanaethau, eu prosesau a’u modelau busnes eu hunain.

Cymhwysedd

Gofynnol

Rhanbarth

Dim ond i sefydliadau yn rhanbarth Gorllewin Cymru a'r Cymoedd y mae cymorth ar gael

Dewisol*

Dewisol

Busnesau Bach a Chanolig gyda Throsiant <50m (~£42m) a llai na 250 o weithwyr.

Gofynnol

Diwydiant

Gweithgynhyrchu (i gynnwys cynhyrchu, proffesiynol, gwyddonol a thechnegol) a gweithgareddau cysylltiedig

Dewisol*

State Aid

Derbyniwyd llai na 200k EUR (£170k) mewn Cymorth Gwladwriaethol dros y tair blynedd diwethaf.

* Bydd dull synnwyr cyffredin yn cael ei fabwysiadu i sefydliadau nad oes ganddynt union gyfatebiaeth i’r diffiniad uchod, ond sy’n cyd-fynd ag ysbryd y Gweithrediad.
Dywedwch wrthym am eich busnes
Dywedwch wrthym am eich busnes, pa mor bell ar hyd eich taith gynaliadwyedd ydych chi drwy gwblhau'r arolwg byr hwn.
Cymorth un i un.
Y cam nesaf yw i sefydliadau dethol gydweithio â’r Chwyldro Cychol i ddylunio, datblygu a gweithredu modelau, prosesau, gwasanaethau a/neu gynhyrchion busnes cylchol ar gyfer eu busnes.
Cymorth ychwanegol a gynigir gan y Chwyldro Cylchol