Cynhadledd Chwyldro Cylchol Cymru 2022 Zak September 15, 2022
Cynhadledd Chwyldro Cylchol Cymru 2022

Bydd ail gynhadledd y Chwyldro Cylchol yn cael ei chynnal ar yr 20fed o Fedi 2022. Mae disgwyl i Gynhadledd Chwyldro Cylchol Cymru 2022 gael ei chynnal yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau Abertawe. Bydd y digwyddiad hwn sydd am ddim yn llawn sgyrsiau, trafodaethau panel, gweithdai a sesiynau rhwydweithio wedi’u hwyluso sydd oll yn canolbwyntio ar y canlynol:

– Deall y cyfle economi gylchol i fusnesau Cymru

– Cynyddu cydweithio rhwng busnesau tebyg i feddwl

– Darganfod y gefnogaeth y gallwch fanteisio arno ar gyfer y trawsnewidiad ymarferol tuag at gylchedd

Mae’r lleoedd yn gyfyngedig felly cofrestrwch yma am eich cyfle i fynychu a dod yn rhan o’r Chwyldro: https://www.eventbrite.co.uk/e/the-circular-revolution-in-wales-2022-chwyldro-cylchol-cymru-2022-tickets-377930559477

Wedi’r gynhadledd bydd diwrnod o weithdai hefyd lle bydd arbenigwyr pwnc ac arweinwyr diwydiant Prifysgol Abertawe, Prifysgol Caerwysg ac Riversimple yn dod at ei gilydd ac yn adeiladu ar yr hyn a ddysgwyd o’n gweithdy diwethaf ym mis Ebrill.

Write a comment
Your email address will not be published. Required fields are marked *