Datblygu cadwyn gyflenwi Roland July 31, 2023
Datblygu cadwyn gyflenwi

Crynodeb

Mae’r adroddiad terfynol ar gyfer Pecyn Gwaith 5 o’r Prosiect Peilot Meini Prawf Cyflenwyr a System Gaffael yn rhoi trosolwg cynhwysfawr o amcanion, prosesau a deilliannau’r prosiect. Mae’r adroddiad yn tanlinellu arwyddocâd cynnwys cyflenwyr mewn trafodaethau am gylcholdeb a chynaliadwyedd, ac yn cyflwyno canfyddiadau allweddol ac argymhellion ar gyfer ymdrechion pellach .

Mae’r adroddiad yn amlinellu nodau Pecyn Gwaith 5 sy’n cynnwys sefydlu proses a system gaffael ar gyfer busnesau cylchol a diffinio meini prawf ar gyfer dethol a phenodi cyflenwyr, gyda phwyslais ar ffactorau diogelu amgylcheddol, cymdeithasol ac ariannol. Yna, mae’n mynd ymlaen i grynhoi methodoleg y prosiect, a oedd yn cynnwys adolygu fframweithiau caffael cylchol presennol, gwerthuso cadwyn gyflenwi Riversimple, a mynd ati’n rhagweithiol i ofyn am adborth gan gyflenwyr ynghylch y meini prawf drafft.

Mae adborth gan bartneriaid ymchwil cydweithredol yn dangos eu derbyniad cadarnhaol o feini prawf yr ymyrraeth. Mae’r adroddiad hefyd yn cyflwyno canlyniadau arolwg ar-lein a gynhaliwyd gyda chyflenwyr, sy’n darparu mewnwelediad gwerthfawr. Mae’r ymatebion i’r arolwg yn nodi bod cyflenwyr yn ystyried eu perthynas â phrynwyr fel partneriaethau perthynol eginol, gyda lle i wella. Mae’r adroddiad yn awgrymu bod cael cwsmer blaengar fel Riversimple yn arwain y newid ac yn darparu economi ar raddfa yn gallu cyflymu’r trawsnewidiad i gadwyn gyflenwi gylchol i gyflenwyr. Yn ogystal, mae’r arolwg yn taflu goleuni ar ymyriadau a gyflwynwyd gan gyflenwyr mewn gwahanol feysydd.

Diagram meini prawf cylchol

Prif wersi a ddysgwyd

Gwelwyd fod y meini prawf cyflenwyr cylchol yn ddull syml a hygyrch i gynnwys cyflenwyr yn y sgwrs ynghylch cylcholdeb a chynaliadwyedd eu cynnyrch a’u gwasanaethau. Cyflwynwyd yr ymyriadau fel enghreifftiau o welliannau posibl a chyfleoedd ar gyfer cyd-ddylunio ac arloesi gyda Riversimple yn hytrach na meini prawf i’w bodloni fel rhan o gydymffurfiaeth.

Roedd y broses o gynnwys cyflenwyr mewn sgyrsiau am gylcholdeb a chynaliadwyedd yr un mor bwysig â’r meini prawf eu hunain. Mae’r diwydiant cerbydau modur yn geidwadol ac yn wrth-risg fel arfer, felly roedd angen rheoli perthynas yn ofalus er mwyn herio’r meddylfryd ‘busnes fel arfer’. Gwelwyd bod dechrau trafodaethau o gwmpas yr heriau a’r risg yr oedd cyflenwyr yn eu hwynebu a sut y gallai economi gylchol eu cynorthwyo i ymateb i’r heriau hyn yn ddull llwyddiannus.

Mae cynefino ac addysgu cyflenwyr am nodau allweddol yr economi gylchol a sut y gall y meini prawf hyn eu cynorthwyo i fod yn fwy cynaliadwy hefyd yn agwedd bwysig o’r broses hon.

Gwelwyd nad oedd y model busnes gwerthu gwasanaeth yn briodol i bob cyflenwr neu gydran yn y cerbyd. Byddai archwilio’r cyfuniad mwyaf addas o ymyriadau ‘model busnes’ a ‘dyluniad’ neu ‘seilwaith’ yn rhan o’r broses o gynefino a/neu dendro ar gyfer cyflenwyr.

Mae’n bosib addasu a theilwra’r ymyriadau ‘hanfodol’ er mwyn bod yn gyflenwr dewisol i wahanol gynhyrchion a chydrannau gan ddibynnu ar hyd eu hoes a’u defnydd. Ar gyfer cerbyd Riversimple, pennwyd mai’r rhain oedd fwyaf priodol.

Meini prawf a phroses cyflenwr cylchol

Yn seiliedig ar brif ganfyddiadau’r prosiect, gweler crynodeb isod o sut i ymgysylltu gyda chyflenwyr ynghylch strategaethau a meddylfryd economi gylchol.

  1. Diffinio’r meini prawf cylchol
    1. Adolygu fframweithiau presennol ar gyfer economi gylchol a strategaethau sectorau penodol
    2. Creu meini prawf drafft a diffinio beth sy’n cynrychioli ‘da’
  2. Cynefino i’r dull a’r feddylfryd
    1. Cynnal cyfarfodydd i fesur diddordeb gyda chyflenwyr
    2. Gosod sylfaen – darganfod beth maen nhw eisoes yn ei wneud (arolygon ac ati)
    3. Cyflwyno’r meini prawf a chasglu adborth ar y camau i’w cymryd
  3. Cydweithio ar atebion
    1. Trafod gofynion gweithredol ac archwilio datrysiadau
    2. Gwneud gwaith ymchwil a/neu ail-ddylunio’r cynnig
    3. Cytuno ar gontractau, gofynion sylfaenol a metrigau
  4. Mesur a gwerthuso cynnydd
    1. Adolygu’r cynnig a’r perfformiad yn erbyn metrigau economi gylchol
    2. Ail-ddylunio ac addasu pe bai angen

Mae’r prosiect hwn wedi cyflawni cam 1 a 2 o’r broses hon a bydd angen i Riversimple gyflawni cam 3 a 4 yn y dyfodol.

Gwaith yn y dyfodol.

Ar ôl eu cyflwyno, byddai angen cytuno ar fetrigau a phrosesau priodol er mwyn gallu mesur cynnydd tuag at y meini prawf hyn. Byddai’r rhain yn cael eu cynnwys fel rhan o gontractau a gytunwyd gyda’r cyflenwyr.

Mae angen mwy o ymchwil o ran cynefino cyflenwyr â’r system blockchain. Argymhellir y dylai Riversimple ddechrau gyda rhanddeiliaid neu gyflenwr allweddol a fyddai’n elwa o dderbyn metrigau perfformiad allweddol o’u cynnyrch mewn amser real, neu gyflenwr sydd eisoes wedi mynegi diddordeb mewn contractio yn seiliedig ar wasanaeth.

Byddai modd grwpio ymyriadau cylchol penodol megis ‘Dyluniad’ neu ‘Ddeunydd’ at ei gilydd a’u cymhwyso i wahanol gynhyrchion neu gydrannau yn y dyfodol. Byddai angen i Riversimple bennu hyn, ond byddai modd ei weithredu fel rhan o strategaeth cylcholdeb targed tymor hwy i sicrhau cylcholdeb eu cerbyd.

Casgliad

Roedd y prosiect hwn yn diffinio meini prawf a phroses gylchol ar gyfer cynnwys cyflenwyr mewn modelau busnes economi gylchol megis gwerthu gwasanaeth a wnaed yn bosibl drwy ddefnyddio Blockchain. Creodd gyfres ymarferol o ymyriadau y gall Riversimple eu defnyddio i ymgysylltu â’u cyflenwyr yn y dyfodol o ran pa strategaethau cylchol sy’n bwysig a pha fath o berthynas maen nhw’n gobeithio ei chael gyda’r cyflenwyr yn yr hirdymor. Mae hefyd yn cynnig mewnwelediad allweddol o ran sut i gynefino cyflenwyr â meddylfryd arloesi cylchol.

Write a comment
Your email address will not be published. Required fields are marked *