Yn ddiweddar mynychais gwrs ar ‘Fenywod mewn Arweinyddiaeth’ a gofynnwyd i mi siarad am fy modelau rôl benywaidd . Er bod llawer o rai eraill yn cofio enwau actorion benywaidd enwog, awduron, sêr chwaraeon ac enillwyr gwobrau Nobel enwog benywaidd, es i â llun o fy Nain ryfeddol gyda mi, a fu fyw i fod yn 98 oed ac sydd bob amser wedi bod yn un o’r merched mwyaf ysbrydoledig yn fy mywyd. Dysgodd fy Nain Nellie un o wersi pwysicaf bywyd i mi, sef ‘credu ynoch chi’ch hun’. Roedd hi bob amser yn dweud i beidio â phoeni gormod am yr hyn na allwch chi ei newid neu beth mae pobl eraill yn meddwl, i ddweud eich dweud, i fachu ar y cyfleoedd, i fod yn hyderus hyd yn oed os nad ydych chi’n teimlo felly a bod unrhyw beth yn bosibl pan fyddwch yn rhoi eich meddwl ar waith.
Wrth i mi ddathlu fy mhen-blwydd yn 40 eleni ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod, yn sicr ni feddyliais y byddwn yn dathlu dod yn Athro Arloesedd Cylchol a bod gennyf rôl Cyd-gyfarwyddwr y CE-un o’r prosiectau mwyaf sy’n canolbwyntio ar yr Economi Gylchol yn y DU, anrhydedd yr wyf yn hynod falch ohoni. Y llynedd fe wnaethom hefyd lansio Circular Revolution, y ganolfan gyntaf wedi’i arwain gan fusnes yn y DU sy’n canolbwyntio ar helpu busnesau bach a chanolig i fabwysiadu meddylfryd cylchol. Gyda chefndir mewn Dylunio, rwyf wedi gweithio ym maes newydd yr Economi Gylchol am y 12 mlynedd diwethaf. Mae’n bwnc yr wyf yn hynod angerddol yn ei gylch gan ei fod yn darparu fframwaith arloesi ar gyfer newid trawsnewidiol y gall pob sector, swyddogaeth, disgyblaeth a pherson uniaethu ag ef. Yn y gorffennol mae cynaliadwyedd wedi dysgu inni wneud llai, defnyddio llai a newid ein hymddygiad, tra bod yr economi gylchol yn ein hannog i wneud mwy gyda’r adnoddau sydd gennym, i ailfeddwl sut rydym yn defnyddio, rhannu ac ailddefnyddio ein cynnyrch ac i ail-ddyfeisio’r drefn arferol. Rwy’n ddigon ffodus i weithio gyda sefydliadau ysbrydoledig bob dydd, fel Riversimple, BAM Clothing, John Lewis Partnership a’r Ellen MacArthur Foundation sy’n defnyddio egwyddorion economi gylchol i newid y dyfodol yn sylfaenol.
Rhan arall o’m rôl yr wyf yn hoff iawn ohoni yw gweithio gyda gweithwyr proffesiynol ar ddechrau eu gyrfa i’w haddysgu am yr economi gylchol a’u cefnogi i ddilyn gyrfaoedd mewn dylunio, arloesi, technoleg a busnes. Yn anffodus, nid oes digon o fenywod yn gweithio yn y meysydd hyn o hyd, yn enwedig mewn swyddi uwch. Yn fy mhrofiad i, yn sicr, nid yw hyn oherwydd prinder arbenigedd, gallu neu uchelgais ond yn aml oherwydd diffyg hyder, diffyg cefnogaeth sefydliadol a chymdeithasol, a’r her o gadw cydbwysedd rhwng gyrfa a theulu. Yn aml, fe’m cefais fy hun yn cyfiawnhau (gan amlaf i bobl ddiarth) fy mhenderfyniadau i weithio’n llawn amser, i ddilyn gyrfa mewn swydd uwch ac o bryd i’w gilydd i adael fy nau blentyn ifanc gartref (gyda’u tad sy’n ddigon galluog!) tra byddaf yn teithio gyda fy ngwaith. Mae fy nghyngor i fenywod sy’n ystyried gyrfa mewn dylunio, arloesi a’r economi gylchol yn yn union yr un fath â’r cyngor a roddodd fy nain i mi:
Peidiwch â threulio amser yn poeni am yr hyn na allwch ei newid,
Dywedwch eich dweud,
Ewch amdani a bachwch ar bob cyfle,
Byddwch yn hyderus hyd yn oed os nad ydych yn teimlo felly,
Mae unrhyw beth yn bosibl pan fyddwch chi’n rhoi eich meddwl ar waith.
Ac yn bwysicach na dim ‘credwch ynoch chi’ch hun!’
Ysgrifenwyd gan Dr Fiona Charnley
