Landing page hello@yumecreative.com October 13, 2021

Ysgogi Trawsnewid i Economi

Gylchol yng Nghymru

Mae’n bleser gan Riversimple gyhoeddi lansiad Chwyldro Cylchol – Canolfan Arloesi Economi Gylchol i Gymru. Chwyldro Cylchol yw’r ganolfan gyntaf yn y DU a arweinir gan fyd busnes ac sy’n canolbwyntio ar syniadaeth gylchol, ac mae wedi cael ei chynllunio a’i darparu mewn partneriaeth gyda Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerwysg. Ariannir y gweithrediad sy’n costio £2.3m yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop trwy Lywodraeth Cymru, sy’n cyfrannu dros £1.5m.

Caiff y Chwyldro Cylchol bydd yn cyflwyno dwy raglen o weithgarwch. Mae’r un gyntaf yn rhaglen allgymorth i fusnesau yng Ngorllewin Cymru a’r Cymoedd sy’n awyddus i ymgysylltu gyda chynhyrchion, gwasanaethau a modelau busnes mwy cynaliadwy. Bydd Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Caerwysg yn cynorthwyo cwmnïau i ddarganfod yr arferion diweddaraf, gan archwilio sut i ymwreiddio egwyddorion cylchol yn eu busnes. Bydd yr ail raglen gweithgarwch yn torri tir newydd gyda gwaith ymchwil ac arloesi sy’n ceisio mynd i’r afael â’r sialensiau penodol y mae busnesau yn eu hwynebu wrth fabwysiadu model cylchol gwerthu gwasanaeth. Bydd 6 phrosiect Peilot yn canolbwyntio ar ddatblygu caffael, systemau cyfrifiannu, a fframweithiau cyfreithiol.

Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am sut y gallwch ymgysylltu â ni ynghylch integreiddio strategaethau cynaliadwyedd ac Economi Gylchol yn eich busnes, cysylltwch â ni gan ddefnyddio’r arolwg hwn:

 

Circular Revolution, Unit 4, Heart of Wales Business Centre, Llandrindod Wells, LD1 5AB

circularrevolution@riversimple.com

01597 823652