Athro Arnold Beckmann

Position:

Athro

Prifysgol Abertawe

Tag: Prifysgol Abertawe, Academaidd, Blockchain

Mae’r Athro Arnold Beckmann yn cyd-arwain prosiect blaenllaw Ffowndri Gyfrifiadurol Prifysgol Abertawe, sy’n anelu at ymchwil rhyngddisgyblaethol sy’n canolbwyntio ar arbenigedd cyfrifiadureg craidd Abertawe gan gynnwys rhyngweithio rhwng pobl a chyfrifiaduron, gwyddor data, seiberddiogelwch a hanfodion cyfrifiadura, i greu esiampl ar gyfer cyfrifiadura yng Nghymru a thu hwnt. Mae Arnold wedi bod yn derbyn cymrodoriaethau academaidd Leopoldina a Marie-Curie, mae ei ymchwil wedi’i hariannu gan EPSRC, y Gymdeithas Frenhinol, DFG yr Almaen a FWF Awstria. Mae wedi gwneud cyfraniadau nodedig mewn hanfodion Cyfrifiadureg. Mae Arnold yn un o sylfaenwyr Labordy Blockchain Abertawe, ac mae’n ymwneud â sawl prosiect sy’n archwilio sylfeini ymchwil technoleg blockchain. Arnold yw’r arweinydd academaidd ar gyfer y Prosiect Peilot dylunio sylfaen blockchain sy’n darparu cymorth strategol arbenigol ac arweiniad gweithredol blockchain.