Dr Fiona Charnley

Position:

Athro Cysylltiol

Prifysgol Caerwysg

Tag: Prifysgol Caerwysg, Academaidd, Allgymorth Busnes

Mae Dr Fiona Charnley yn Athro Cysylltiol Economi Gylchol a Chyd-gyfarwyddwr Canolfan Economi Gylchol Caerwysg yn Ysgol Fusnes Prifysgol Caerwysg. Mae Fiona yn gweithio ac wedi cyhoeddi llawer o ddeunydd ym maes dylunio, arloesi a gweithgynhyrchu ar gyfer Economi Gylchol. Mae’n Gyd-gyfarwyddwr Canolfan Economi Gylchol Ryngddisgyblaethol Cenedlaethol UKRI sydd wedi’i hariannu’n ddiweddar ac sy’n manteisio ar brif alluoedd ymchwil y DU; creu gwybodaeth, offer, ymddygiadau a pherthnasoedd newydd i gasglu gwerth economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol yn sgil Economi Gylchol. Mae Fiona yn arwain nifer o brosiectau ymchwil a ariennir gan y llywodraeth a’r diwydiant sy’n ymdrin â phynciau fel defnyddio technoleg ddigidol i lywio penderfyniadau ynghylch gweithredu strategaethau Economi Gylchol a datblygu a chymhwyso deunyddiau hunan-wella er mwyn galluogi ymestyn bywyd cynnyrch.
Mae gan Fiona brofiad helaeth o weithio gyda sefydliadau o bob rhan o’r sector i nodi dulliau newydd o ddylunio, arloesi, gweithgynhyrchu a modelu busnes i drawsnewid sut y caiff adnoddau a phrosesau creu gwerth eu defnyddio. Mae hi hefyd wedi arwain nifer o raglenni addysg a hyfforddiant gweithredol i gefnogi arweinwyr y dyfodol i ddatblygu’r sgiliau a’r galluoedd sydd eu hangen i drawsnewid ein system ddiwydiannol.
Fiona yw’r arweinydd academaidd ar gyfer y gweithgareddau allgymorth busnes sy’n darparu cymorth strategol a chanllawiau gweithredol arbenigol ar gyfer economi gylchol.