Dr Gavin Bunting

Position:

Athro Cysylltiol

Prifysgol Abertawe

Tag: Prifysgol Abertawe, Academaidd, Allgymorth Busnes

Mae Dr Gavin Bunting yn Athro Cysylltiol ac yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Arloesedd ac Ymgysylltu yn y Coleg Peirianneg, Prifysgol Abertawe. Mae Gavin yn dysgu Economi Gylchol, dadansoddi cylch bywyd, deddfwriaeth amgylcheddol a chynaliadwyedd ar lefelau meistr a doethuriaeth, gan ddefnyddio ei brofiadau yn gweithio gyda’r llywodraeth ar faterion cynaliadwyedd a newid yn yr hinsawdd. Mae Gavin yn cadeirio Grŵp Ymchwil ac Arloesi Economi Gylchol Cymru gyfan (CERIG) sydd ag aelodau o bob prifysgol yng Nghymru, Llywodraeth Cymru a WRAP. Mae’r grŵp yn cysylltu arbenigedd a phrofiadau cydategol i hwyluso arloesedd ac ymchwil yr Economi Gylchol yng Nghymru ac mae’n darparu tystiolaeth i helpu i lywio polisi a rhaglenni’r Llywodraeth. Gavin yw’r arweinydd academaidd ar gyfer y gweithgareddau allgymorth busnes sy’n darparu cymorth strategol a chanllawiau gweithredol arbenigol ar gyfer economi gylchol.
Gyda busnesau’n fwyfwy ymwybodol o’r angen i ymgorffori cynaliadwyedd wrth galon sefydliadau, mae’n tynnu sylw at y ffaith bod Chwyldro Cylchol yn gyfle gwych i gysylltu diwydiant Cymru â’r arbenigedd yn ein prifysgolion, gan greu cyfleoedd newydd a galluogi Cymru i fod ar flaen y gad o ran Economi Gylchol.