Dr Indirajith Vijai Ananth
Tag:
Prifysgol Abertawe, Academaidd, Blockchain
Mae Dr Indirajith Vijai Ananth yn gynorthwyydd ymchwil mewn Gwyddoniaeth Gyfrifiadurol ym Mhrifysgol Abertawe sy’n canolbwyntio ar blockchains. Mae Indirajith wedi bod yn gweithio ar amryw o brosiectau blockchain fel rhan o’i rôl ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ganddo ddiddordeb mewn datrysiadau blockchain ar gyfer mentrau ac mae’n canolbwyntio’n bennaf ar ddatrysiadau blockchain breifat, gyda chaniatâd, megis Hyperledger.
Mae ganddo radd Doethuriaeth o’r University of Rome TorVergata. Wrth astudio, mae hefyd wedi cwblhau interniaeth gyda’r Linux Foundation yn y prosiect Hyperledger. Mae ganddo gefndir mewn telathrebu ac mae nawr yn gweithio gyda thechnoleg blockchain.
Rôl Indirajith o fewn y prosiect Chwyldro Cylchol yw dylunio, datblygu a gweithredu’r seilwaith craidd ar gyfer y blockchain. Mae’n cynnwys adleoli a chynnal a chadw’r blockchain gan gynnwys ysgrifennu contractau clyfar sy’n defnyddio rhesymeg trafodion busnes cymhleth mewn contractau clyfar/codau cadwyn.