Dr Stefano Barazza sy’n arwain Labordy Arloesedd Cyfreithiol Cymru ym Mhrifysgol Abertawe, menter unigryw a ariennir gan ERDF i hyrwyddo ymchwil gymhwysol mewn technoleg gyfreithiol, ac mae’n ymchwilydd profiadol sy’n canolbwyntio ar ryngadrannau eiddo deallusol, technoleg a chystadleuaeth. Cyn hyn mae wedi arwain hyfforddiant ôl-raddedig ar gyfer Swyddfa Eiddo Deallusol y DU ac mae’n gyd-olygydd y Journal of Intellectual Property Law and Practice (OUP). Mae wedi cyhoeddi llawer o ddeunydd ym meysydd cyfraith patentau, technoleg safonol, arloesedd eilaidd a chystadleuaeth. Mae ei ymchwil bresennol, a ariennir gan Horizon 2020, yn canolbwyntio ar ddefnyddio contractau clyfar, mewn cyd-destun blockchain, i drwyddedu asedau IP. Nod ei gyfraniad at Chwyldro Cylchol yw archwilio’r defnydd o gontractau clyfar i gefnogi’r model arloesi agored sydd wrth wraidd y prosiect. Fel Cyfarwyddwr y LLM LegalTech yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton, mae Stefano hefyd yn awyddus i ysbrydoli cenedlaethau iau i groesawu potensial trawsnewidiol technoleg yn y maes cyfreithiol – potensial y mae Chwyldro Cylchol yn ei groesawu a’i wireddu’n llawn.