Mae Spyridonas Georgiou yn gynorthwyydd ymchwil yn Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe sy’n canolbwyntio ar y defnydd o dechnoleg gyfreithiol, ac yn arbennig, ar ddefnydd contractau clyfar yng nghyd-destun blockchains. Yn y gorffennol, gweithiodd Spyridonas ar brosiect lle wnaeth gyflawni ymchwil arloesol ynghylch yr anghenion cyfreithiol sy’n ymwneud â datblygiad a gweithrediad llwyfan blockchain, sy’n defnyddio contractau clyfar i gwblhau trafodion trwyddedu. Mae ganddo radd ôl-raddedig mewn Technoleg Gyfreithiol, lle arbenigodd ef mewn deall sut mae technoleg megis deallusrwydd artiffisial a blockchains yn effeithio ar wasanaethau cyfreithiol, yn ogystal ag archwilio’r heriau cyfreithiol a rheoleiddiol sy’n gysylltiedig â thechnolegau sy’n dod i’r amlwg a dysgu gwybodaeth arbenigol mewn eiddo deallusol digidol, meddwl yn gyfrifiadurol ac entrepreneuriaeth technoleg gyfreithiol. Mae ganddo gefndir addysgol mewn mathemateg a’r gyfraith, felly mae wedi ymchwilio i statws cyfreithiol contractau clyfar ar sail blockchains o safbwynt damcaniaethol ac ymarferol. Ei rôl ym mhroject y Chwyldro Cylchol yw ymchwilio i fodelau arloesedd agored yng nghyd-destun yr economi gylchol ac i gyfrannu i ymchwil gyfredol i’r defnydd o gontractau clyfar a thechnolegau blockchain er mwyn galluogi cydweithrediad rhwng partneriaid masnachol ar gyfer gwneud y mwyaf o’r cyfleoedd a ddaw o berthynas economi gylchol.